Darperir y Clinigau Hybu Iechyd a’r gwasanaethau meddygol eraill canlynol yn y Practis:
Imiwneiddio a Brechu Oedolion
Cysylltwch â Nyrsys y Feddygfa i gael cyngor a brechiadau rhag:
Y Ffliw
Rydym yn cynnig brechiadau rhad ac am ddim rhag y ffliw bob Hydref i’n cleifion hŷn ac i gleifion â chlefyd cronig y galon neu glefyd anadlol cronig, diabetes neu gyflyrau cronig eraill. Mae angen imiwneiddio o'r newydd bob blwyddyn.
Tetanws
Dylai pob oedolyn fod wedi cael cwrs o dri brechlyn tetanws, ac yna dau bigiad atgyfnerthu bob deng mlynedd.
Niwmonia
Mae’r Adran Iechyd yn argymell bod pobl 65 oed a hŷn, a’r rhai â chyflyrau meddygol penodol, yn cael eu brechu rhag clefyd niwmococol. Yn achos y rhan fwyaf o gleifion, dim ond unwaith y rhoddir brechlyn niwmococol.
Brechiadau cyn Teithio Dramor ar Wyliau
Bydd dwy o nyrsys ein practis yn cynnig cyngor iechyd ar deithio dramor, yn ogystal â brechiadau ar gyfer polio, teiffoid, hepatitis A, hepatitis B, malaria a thetanws. Gofynnwn i chi gasglu holiadur iechyd ar deithio dramor o'r dderbynfa a gofynnir i chi lenwi'r ffurflen a'i dychwelyd i'r nyrs i wirio eich anghenion. Dylech ganiatáu o leiaf wyth wythnos o rybudd cyn eich dyddiad gadael.
Y Clinig Asthma
Mae Nyrsys Arbenigol y Practis, Alyson Jones a Lynette Burge, yn gweld cleifion asthma trwy apwyntiad ar gyfer asesiadau, cyngor, cymorth ac addysg reolaidd.
Imiwneiddio Plant
Mae'n bwysig iawn bod pob baban a phlentyn yn cael ei imiwneiddio yn unol â'r amserlen bresennol. Byddwch yn cael gwahoddiad trwy’r post ac yna bydd angen i chi ffonio’r feddygfa i drefnu apwyntiad. Os oes gennych unrhyw bryderon, mae croeso i chi eu trafod â'ch meddyg neu eich ymwelydd iechyd.
Clinig Arolygu Iechyd Plant
Mae Dr Ellis a Dr Nelson, ar y cyd â'r Ymwelwyr Iechyd, yn cynnal asesiadau rheolaidd o ddatblygiad babanod a phlant ifanc, a hynny pan fyddant yn wyth wythnos oed ac yn saith i naw mis oed.
Profion Ceg y Groth
Argymhellir bod pob menyw rhwng 25 a 49 oed yn cael prawf ceg y groth bob tair blynedd, a bod menywod rhwng 50 a 64 oed yn cael prawf ceg y groth bob pum mlynedd. Byddwch yn cael nodyn atgoffa gan Sgrinio Serfigol Cymru pan fydd yn bryd i chi gael prawf ceg y groth.
Mae nyrsys y practis yn cynnal profion ceg y groth trwy apwyntiad, ond dylech roi gwybod i'r Derbynnydd y bydd arnoch angen apwyntiad 15 munud o hyd.
Y Clinig Diabetes
Mae Nyrsys y Practis, Alyson Jones, Sonia Williams ac Angharad Thomas, yn gweld cleifion â diabetes trwy apwyntiad ar gyfer asesiadau, cyngor, cymorth ac addysg reolaidd.
Deietegydd
Gall y meddygon neu nyrsys y practis atgyfeirio cleifion i Glinig y Deietegydd Cymunedol.
Cynllunio Teulu
Bydd yr holl feddygon yn cynnig cyngor cyfrinachol ar bob agwedd ar atal cenhedlu, yn ystod oriau agor arferol y feddygfa. Mae nyrs y practis, Sonia Williams, hefyd yn cynnal clinig ar ddydd Llun rhwng 4.45pm a 5.45pm trwy apwyntiad.
Mân-lawdriniaethau
Gwneir mân-lawdriniaethau mewn ystafell driniaethau sydd â chyfarpar da. Mae triniaethau o'r fath yn cynnwys tynnu systiau, casewinedd a mannau duon, pigiadau i'r cymalau, yn ogystal â thrin dafadennau a ferwcau.
Fel arfer trefnir mân-lawdriniaeth mewn ymgynghoriad â'ch meddyg.
Cyngor ar Roi'r Gorau i Smygu
Os ydych yn ceisio rhoi'r gorau i smygu a bod arnoch angen cyngor a chymorth, gall meddygon a nyrsys ein practis eich rhoi mewn cysylltiad â Chynghorydd Rhoi'r Gorau i Smygu lleol.
Clinig Teithio Dramor
Mae nyrsys y practis yn cynnal gwasanaeth clinig teithio dramor ac maent yn hapus i roi cyngor ynghylch brechiadau cyn teithio a meddyginiaethau eraill y gallai fod arnoch eu hangen.
Casglwch ffurflen o'r dderbynfa a chaniatewch 6-8 wythnos cyn teithio.
Codir tâl am rai brechiadau teithio. Gofynnwch wrth y dderbynfa am fanylion.