Neidio i'r prif gynnwy

Amdanom Ni

Amdanom ni

Mae yna saith meddyg parhaol yn y practis. Y pedwar partner yw Dr J Ellis, Dr K Thomas, Dr K Williams a Dr A Nelson, yn ogystal â thri meddyg cyflogedig, sef Dr J Collier, Dr E Berry a Dr J Carroll sy’n gweithio o’r Ganolfan Iechyd ynghyd â’r tîm Gofal Sylfaenol sy’n cynnwys nyrsys practis a nyrsys ardal, ymwelwyr iechyd, bydwragedd, rheolwr y practis, fferyllydd, derbynnydd a staff gweinyddol. Mae'r practis hefyd yn cyflogi meddygon locwm o bryd i'w gilydd.

Adeiladwyd yr eiddo ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Sir Benfro a Derwen yn 1976 a'i adnewyddu yn 2019. Mae'r meddygon yn rhentu rhan o'r adeilad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae pob ystafell ar y llawr gwaelod ac mae yna fynediad i bobl anabl y tu cefn i'r adeilad trwy faes parcio staff y Ganolfan Iechyd.

Rydym bob amser yn ceisio gwella'r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig. Os oes gennych unrhyw syniadau neu sylwadau a fyddai'n ddefnyddiol yn eich barn chi, cysylltwch â staff y dderbynfa.