Apwyntiadau
Mae pob ymgynghoriad trwy apwyntiad yn unig. Pan fyddwch yn gwneud apwyntiad bydd aelod staff hyfforddedig yn gallu eich cyfeirio at y gwasanaeth priodol. Efallai nad meddyg fydd hwn. Peidiwch â gofidio pan fydd y staff yn gofyn am wybodaeth.
Gwnewch yn glir i'r derbynnydd os oes angen rhoi sylw brys i'ch problem pan fyddwch yn trefnu apwyntiad. Os ydych yn ddifrifol wael byddwch bob amser yn cael eich gweld ar yr un diwrnod gan y meddyg ar ddyletswydd.
PEIDIWCH Â CHAMDDEFNYDDIO HYN TRWY DDRYSU RHWNG CYFLEUSTRA A BRYS.
Apwyntiadau Arferol
Trefnwch apwyntiad trwy alw heibio neu ffonio'r Feddygfa yn ystod oriau agor. Rydym wedi dewis ystod eang o amseroedd apwyntiadau.
Efallai y bydd angen amrywio oriau'r feddygfa yn ystod gwyliau, cyfnodau o salwch a phrynhawniau hyfforddi meddygon. Nodwch fod yr oriau y mae'r meddygon unigol yn y feddygfa yn amrywio.
Gellir gofyn am apwyntiadau arferol dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Mae pob apwyntiad arferol yn rhedeg ar system apwyntiadau deg munud o hyd. Dywedwch wrth y derbynnydd os bydd arnoch angen apwyntiad hirach am unrhyw reswm, e.e. asesiad meddygol, prawf ceg y groth, ac ati.
Apwyntiadau Brys/Ar yr un Diwrnod
Mae apwyntiadau brys yn bum munud o hyd ac mae angen eu trefnu yn gynnar yn y dydd fel y gellir ymdrin â nhw'n briodol.
Efallai y bydd y meddyg ar ddyletswydd yn eich ffonio'n ôl ac efallai y bydd yn gallu delio â'ch pryderon dros y ffôn. Neu, gall drefnu i'ch gweld mewn apwyntiad penodol ar y diwrnod, trefnu presgripsiwn, trefnu apwyntiad gyda nyrs y practis neu apwyntiad yn ddiweddarach yn yr wythnos, yn dibynnu ar natur eich problem.