Neidio i'r prif gynnwy

Apwyntiadau gyda Nyrsys y Practis

Apwyntiadau gyda Nyrsys y Practis

Mae nyrsys y practis ar gael trwy apwyntiad. Gellir gofyn am apwyntiadau arferol dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Mae apwyntiadau profion gwaed yn bum munud o hyd ac mae pob apwyntiad arall yn ddeg munud o hyd. Dywedwch wrth y derbynnydd os bydd arnoch angen apwyntiad hirach am unrhyw reswm, e.e. prawf ceg y groth, newid/gosod pesari cylch, chwistrell clust, mân-lawdriniaeth, gwiriadau diabetig, gwiriadau asthma neu wiriadau IHD.