Gofal ar Alwad
Pan fydd y Ganolfan Iechyd ynghau, mae Gofal ar Alwad Sir Benfro yn darparu gwasanaeth ar gyfer achosion brys yn unig, nid ar gyfer unrhyw fater a all aros nes y bydd y feddygfa yn agored (Gweler yr oriau agor).
Mae Gofal ar Alwad Sir Benfro yn gweithredu rhwng 6.30pm ac 8am yn ystod yr wythnos, a rhwng 6.30pm ar ddydd Gwener ac 8am ar ddydd Llun, gan gynnwys Gwyliau Banc.
I gysylltu â meddyg y tu allan i oriau gallwch naill ai ffonio’r rhif y tu allan i oriau yn uniongyrchol neu rif arferol y feddygfa (mae'r rhifau ffôn isod).
Pan fyddwch yn ffonio'r naill rif neu'r llall, bydd y sawl sy'n ateb galwadau yn cymryd eich manylion a fydd yn cael eu trosglwyddo i'r nyrs brysbennu, a fydd naill ai'n siarad â chi ar unwaith, yn eich ffonio'n ôl neu’n eich trosglwyddo'n uniongyrchol i'r meddyg ar ddyletswydd. Efallai y gofynnir i chi fynd i'r Ganolfan Triniaethau yn Hwlffordd. Dim ond yn achos cleifion sâl iawn a chleifion sy'n gaeth i'w cartrefi y gwneir ymweliadau â'r cartref.
Y Gwasanaeth Ambiwlans
Mae'r gwasanaeth ambiwlans yno i helpu mewn argyfyngau difrifol a allai beryglu bywyd. Ffoniwch 999 ar unwaith yn achos argyfwng megis
Yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys (A&E)
Mae’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys wedi’i lleoli yn Ysbyty Llwynhelyg a’r rhif ffôn yw 01437 764545. Os ydych wedi cael anaf neu'n meddwl eich bod yn ddifrifol wael, gallwch fynd i'r adran damweiniau ac achosion brys eich hun neu gofynnwch i aelod o'r teulu/ffrind i fynd â chi yno. Peidiwch â chamddefnyddio'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys ar gyfer pethau nad ydynt yn faterion brys.
Galw Iechyd Cymru
Mae Galw Iechyd Cymru yn rhoi cyngor 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos. Rhif ffôn Galw Iechyd Cymru yw 111.
Gallwch hefyd gael gwybodaeth yma: https://111.wales.nhs.uk/