Neidio i'r prif gynnwy

Presgripsiynau

Presgripsiynau

Os ydych yn cymryd meddyginiaeth reolaidd efallai y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiynau amlroddadwy i chi. Byddwch yn cael copi o fanylion eich presgripsiwn, y gellir ei ddefnyddio i archebu eich meddyginiaeth pan fo'r cyflenwadau'n mynd yn brin, a hynny heb fod angen apwyntiad i weld y meddyg bob tro. Cadwch olwg am wybodaeth ar eich ffurflen bresgripsiwn gan y gallai hyn ddynodi bod arnoch angen adolygiad gyda'r meddyg neu'r nyrs. 

Byddwn yn gofyn am ddau ddiwrnod gwaith i brosesu eich cais am bresgripsiwn rheolaidd, a chofiwch ail-archebu eich meddyginiaeth cyn iddi ddod i ben.

 

Sut i archebu presgripsiwn rheolaidd

Gellir gofyn am bresgripsiwn rheolaidd trwy nodi'n glir yr eitemau y mae arnoch eu hangen ar y slip ailarchebu ar ochr dde eich presgripsiwn. 

  • Wyneb yn wyneb trwy’r dderbynfa – rhowch y slip ailarchebu i’r derbynnydd neu defnyddiwch y blwch casglu presgripsiynau rheolaidd yn y dderbynfa, gan nodi'n glir yr eitemau y mae arnoch eu hangen eto. Bydd eich presgripsiwn ar gael i'w gasglu o'r dderbynfa.
  • Os byddwch yn darparu amlen sydd â chyfeiriad a stamp arni, byddwn yn anfon eich presgripsiwn atoch.
  • Trwy drefniant â'ch fferyllfa arferol.
  • Archebu ar-lein trwy Fy Iechyd Ar-lein. Ewch i'r feddygfa i sefydlu hyn. Bydd arnoch angen prawf adnabod sy’n cynnwys llun a chyfeiriad e-bost. 

Mae presgripsiynau rheolaidd fel arfer yn cael eu hawdurdodi am gyfnod sydd rhwng tri a chwe mis. Efallai y gofynnir i chi drefnu apwyntiad gyda'ch meddyg cyn iddo awdurdodi rhagor o bresgripsiynau rheolaidd.