Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i Gleifion

Safonau Mynediad

Cyhoeddwyd set newydd o safonau gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Mawrth 2019 gyda’r nod o godi a gwella lefel y gwasanaeth i gleifion yng Nghymru gan eu meddygfeydd teulu.

 

Mae'r safonau fel a ganlyn:

  • Mae unigolion yn derbyn ymateb prydlon pan fyddant wedi cysylltu â phractis meddyg teulu dros y ffôn.
  • Mae gan bractisau y systemau ffôn priodol ar waith i gefnogi anghenion unigolion sy'n golygu nad oes angen ffonio nôl sawl gwaith a byddant yn sicrhau eu bod yn ymateb i alwadau fel hyn.
  • Mae unigolion yn cael gwybodaeth ddwyieithog am wasanaethau lleol a brys pan fyddant yn cysylltu â phractis.
  • Mae unigolion yn gallu cael gwybodaeth am sut i gael help a chyngor.
  • Mae unigolion yn cael y gofal cywir ar yr amser priodol mewn ffordd gydgysylltiedig ar sail eu hanghenion.
  • Mae unigolion yn gallu elwa ar amrywiol opsiynau i gysylltu â'u practis meddyg teulu.
  • Mae unigolion yn gallu anfon e-bost at bractisau yn gofyn am ymgynghoriad nad yw'n frys neu'n gofyn iddynt eu ffonio nôl.
  • Mae practisau'n deall anghenion unigolion yn eu practis ac yn defnyddio'r wybodaeth hon i ragweld y galw fydd am eu gwasanaethau.