Sut i Gofrestru i fod yn Glaf
Cleifion Newydd ac Ardal y Practis
Dim ond cleifion newydd sy'n byw o fewn ffiniau ardal y practis y byddwn yn eu derbyn – gweler y map isod.
Os oes gennych unrhyw amheuon, gofynnwch i'r derbynnydd.
Rhestrau Personol a Hawliau Cleifion i Fynegi Dewis o ran Ymarferydd
Pan fyddwch yn cofrestru gyda Chanolfan Iechyd Abergwaun ni neilltuir meddyg penodol i chi. Mae gennych hawl i ddweud pa feddyg y byddai’n well gennych ei weld, a byddem yn annog cleifion i weld eu meddyg arferol i gael gwasanaeth mwy personol, yn enwedig os yw’r broblem yn un barhaus.
Fodd bynnag, os oes arnoch angen apwyntiad brys neu os yw eich meddyg o ddewis i ffwrdd ar wyliau, absenoldeb astudio, ac ati, gallwch weld unrhyw feddyg a fydd ar gael.