Mae'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin yn cynnig mynediad i gleifion at gyngor a thriniaeth rad ac am ddim gan y GIG ar gyfer anhwylderau cyffredin na ellir eu rheoli trwy hunanofal.
Mae'r gwasanaeth yn cynnig dewis amgen yn lle trefnu apwyntiad gyda'r meddyg teulu i drafod y 26 o gyflyrau canlynol:
|
|
Ar gyfer pwy y mae'r gwasanaeth hwn?
Gall unrhyw glaf sy'n byw yng Nghymru neu sydd wedi'i gofrestru gyda meddygfa deulu yng Nghymru ddefnyddio'r gwasanaeth. Rhaid i'r claf allu mynd i'r fferyllfa yn bersonol.
Os ydych yn dioddef o gyflyrau'r llygaid dylech ymweld ag optometrydd (optegydd) lleol i gael archwiliad llygaid rhad ac am ddim gan y GIG yn y lle cyntaf. Mae gwybodaeth am optegwyr sy'n cynnig gwiriadau llygaid rhad ac am ddim ar gael yma.
Weithiau gall fod angen i'r fferyllydd eich atgyfeirio at eich meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall os na all drin eich cyflwr.
A all unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Gall cleifion naill ai gael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall neu gallant hunanatgyfeirio i'r gwasanaeth hwn. Os nad ydych yn sicr p'un a oes angen i chi ddefnyddio'r gwasanaeth hwn neu weld eich meddyg, siaradwch â'r fferyllydd i gael cyngor.
Er mwyn defnyddio'r gwasanaeth hwn rhaid i chi gofrestru gyda fferyllfa o'ch dewis. Gallwch gofrestru gydag unrhyw fferyllfa a gallwch ddewis symud i fferyllfa arall unrhyw bryd os bydd angen i chi ddefnyddio'r gwasanaeth eto.
Yr hyn y gellir ei ddisgwyl
Byddwch yn cael ymgynghoriad preifat gyda'r fferyllydd yn ystafell ymgynghori'r fferyllfa. Bydd hyn yn cymryd rhwng pum munud a deg munud fel arfer.
Nid oes angen i chi drefnu apwyntiad, ond gall fod angen i chi aros i weld y fferyllydd ar adegau prysur.
Bydd gwybodaeth am y cyngor a'r driniaeth a gawsoch yn cael ei hanfon at eich meddyg teulu.